1 A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;
2 Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.
3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw'r môr heli.
4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
5 A'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim, a'r Susiaid yn Ham, a'r Emiaid yn Safe-Ciriathaim,
6 A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar.