16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a'i frawd Lot hefyd, a'i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a'r gwragedd hefyd, a'r bobl.
17 A brenin Sodom a aeth allan i'w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin.
18 Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:
19 Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:
20 A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.
21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.
22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,