20 A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.
21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.
22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,
23 Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o'r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:
24 Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.