6 A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar.
8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;
9 A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump.
10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoesant i'r mynydd.
11 A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.
12 Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a'i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.