1 Wedi'r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.
2 A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus.
3 Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.
4 Ac wele air yr Arglwydd ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o'th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
5 Ac efe a'i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di.
6 Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.