15 A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.
17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:
19 Y Ceneaid, a'r Cenesiaid, a'r Cadmoniaid.
20 Yr Hethiaid hefyd, a'r Pheresiaid, a'r Reffaimiaid,
21 Yr Amoriaid hefyd, a'r Canaaneaid, a'r Girgasiaid, a'r Jebusiaid.