6 A mi a'th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.
7 Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a'th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i'th had ar dy ôl di.
8 A mi a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a'th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd.
10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.
11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.
12 Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o'th had di.