1 A'r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.
2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua'r ddaear,
3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was.
4 Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren;
5 Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6 Ac Abraham a frysiodd i'r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a'i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i'w baratoi ef.