14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o'r fan yma; oherwydd y mae'r Arglwydd yn difetha'r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
15 Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a'th ddwy ferch, y rhai sydd i'w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.
16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o'r Arglwydd wrtho ef; ac a'i dygasant ef allan, ac a'i gosodasant o'r tu allan i'r ddinas.
17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i'r mynydd, rhag dy ddifetha.
18 A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.
19 Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i'r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof.
20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.