23 Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.
24 Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o'r nefoedd.
25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
26 Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o'i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.
27 Ac Abraham a aeth yn fore i'r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd.
28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.