27 Ac Abraham a aeth yn fore i'r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd.
28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
30 A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a'i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a'i ddwy ferch.
31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.
32 Tyred, rhoddwn i'n tad win i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
33 A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.