32 Tyred, rhoddwn i'n tad win i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
33 A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo ef i'w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
35 A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
36 Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o'u tad.
37 A'r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.
38 A'r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.