10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:
12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a'r maen onics.
13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du'r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15 A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yng ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.
16 A'r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: