15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
16 Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i'th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i'r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
17 Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a'i wraig, a'i forynion; a hwy a blantasant.
18 Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.