8 Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a'r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
9 Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i'th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi, Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a'm lladdant i o achos fy ngwraig.
12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe.
14 Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a'u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn.