1 A'r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai.
2 Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef.
3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac.
4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef.
5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.