12 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.
14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba.
15 A darfu'r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.
16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17 A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.
18 Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â'th law; oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.