19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o'r dwfr, ac a ddiododd y llanc.
20 Ac yr oedd Duw gyda'r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a'i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.
22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.