25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.
27 Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.
29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.