5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi.
7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8 A'r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9 A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â'm mab i Isaac.
11 A'r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.