1 Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara.
2 A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.
3 Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4 Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi: rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o'm golwg.
5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o'n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.