11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a'r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
12 Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir.
13 Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a'i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
14 Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.
16 Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.
17 Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a'r ogof oedd ynddo, a phob pren a'r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,