5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o'n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o'm golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;
9 Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.
10 Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,
11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a'r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.