60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61 Yna y cododd Rebeca, a'i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a'r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith.
62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau.
63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.
66 A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.