13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
14 Misma hefyd, a Duma, a Massa,
15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema.
16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd.
17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.