16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd.
17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a'r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.
22 A'r plant a ymwthiasant â'i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r Arglwydd.