2 A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua.
3 A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim.
4 A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
5 Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.
6 Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a'u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua'r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.
7 A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain.
8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.