21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a'r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.
22 A'r plant a ymwthiasant â'i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r Arglwydd.
23 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.
24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.
25 A'r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.
26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.
27 A'r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o'r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.