26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.
27 A'r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o'r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.
28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
29 A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.
30 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint.
32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna'r enedigaeth‐fraint hon i mi?