9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a'i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;
10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11 Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi.
12 A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham.
13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
14 Misma hefyd, a Duma, a Massa,
15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema.