11 A gorchmynnodd Abimelech i'r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â'r gŵr hwn, neu â'i wraig, a leddir yn farw.
12 Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.
13 A'r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a'r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef.
15 A'r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a'u caeasant hwy, ac a'u llanwasant â phridd.
16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17 Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.