20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef.
21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Sitna.
22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.
23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba.
24 A'r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26 Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.