4 A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i'th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a'm cyfreithiau.
6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar.
7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg.
8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy'r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.
9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o'i phlegid hi.
10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.