1 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.
2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.
3 Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.
4 A gwna i mi flasusfwyd o'r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y'th fendithio fy enaid cyn fy marw.