17 Ac a roddes y bwyd blasus, a'r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?
19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithio dy enaid.
20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i'r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o'm blaen.
21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e.
22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a'i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a'r dwylo, dwylo Esau ydynt.
23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a'i bendithiodd ef.