2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.
3 Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.
4 A gwna i mi flasusfwyd o'r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y'th fendithio fy enaid cyn fy marw.
5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i'r maes, i hela helfa i'w dwyn.
6 A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,
7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y'th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw.
8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.