23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a'i bendithiodd ef.
24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.
25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y'th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab.
27 Yna y daeth efe yn nes, ac a'i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a'th felltithio, a bendigedig a'th fendithio.