5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i'r maes, i hela helfa i'w dwyn.
6 A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,
7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y'th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw.
8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.
9 Dos yn awr i'r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a'u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gâr efe.
10 A thi a'u dygi i'th dad, fel y bwytao, ac y'th fendithio cyn ei farw.
11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: