8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.
9 Dos yn awr i'r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a'u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gâr efe.
10 A thi a'u dygi i'th dad, fel y bwytao, ac y'th fendithio cyn ei farw.
11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn:
12 Fy nhad, ond odid, a'm teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith.
13 A'i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.
14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a'u dygodd at ei fam: a'i fam a wnaeth fwyd blasus o'r fath a garai ei dad ef.