15 Ac wele fi gyda thi; ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon: oherwydd ni'th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
16 A Jacob a ddeffrôdd o'i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw'r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.
18 A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
19 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o'r cyntaf.
20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyda myfi, ac a'm ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i'w fwyta, a dillad i'w gwisgo,
21 A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.