18 A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
19 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o'r cyntaf.
20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyda myfi, ac a'm ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i'w fwyta, a dillad i'w gwisgo,
21 A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.
22 A'r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o'r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymu mi a'i degymaf i ti.