2 Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
3 A Duw Hollalluog a'th fendithio, ac a'th ffrwythlono, ac a'th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd:
4 Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.
5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6 Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;
7 A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia;
8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;