5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6 Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;
7 A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia;
8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;
9 Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10 A Jacob a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua Haran.
11 Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo'r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.