8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;
9 Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10 A Jacob a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua Haran.
11 Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo'r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
12 Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd: ac wele angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi.
13 Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had.
14 A'th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.