1 A'r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o'r ardd?
2 A'r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:
3 Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.
4 A'r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.