10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
11 A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?
12 Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwyteais.
13 A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarff a'm twyllodd, a bwyta a wneuthum.
14 A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes.
15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
16 Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.