5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o'i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i'w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.
7 A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
8 A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ymysg prennau yr ardd.
9 A'r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
11 A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?