12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.
13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a'm galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.
15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.
16 A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y'th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.
17 A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.