2 A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?
3 A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.
4 A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.
5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.
6 A Rahel a ddywedodd, Duw a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.
7 Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.
8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.