33 A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi.
34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di!
35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a'r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
37 A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio'r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.
38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai'r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
39 A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion.